From the July 1969 issue of the Socialist Standard
Erthygl Areiniol
Mewn byd sosialaeth fe fydd pawb a'u boced yn wag, fe fydd diweithdra drychynllyd a fydd phob masnach ar ben.
Dyna pam r’ym yn credu bydd yn syniad da, ond efallai bydd yn well i ni fanylu tipyn,
Ni fydd dim arian mewn byd sosialaeth. Yn wir fe fydd dim prynu a gwerthu ogwbwl. Bydd pobol yn rhydd i fyned i’r siopau a’r marchnadoeth a cymeryd beth y fynnent heb dalu ac heb ddogni.
Gall byd gael ei gynal fel hyn oherwydd fod gennym yn barod y ffordd tegnegol i gynyrchu fwy nag sydd eisiau ar ddynion. Ar hyn o bryd arian sydd yn gweithredu fel math o ddogni. Os nad ydych yn gallu fforddio rhwybeth, mae rhaid mynd hebddo. Dyna pam mae pobol yn newynu a teuluoedd yn cael eu gorfodi i fyw mewn sylms a dyna paham mae dynion, bynywod a phlant drwy’r byd yn cael eu amddifadu au bywyd yn ddistryw. Nid effaith prynder yw’r system arianol ond y system arianol yw achos prynder. Mae yn eglur nad yw bwyd yn cael eu gynyrchu mewn digonedd i boblogaeth y byd, nid o achos fod gan ddyn dim ddigon o adnoddau i wneud hyn ond am y reswm nas gall dim elw i’w wneud allan o bobol newynog.
Mae sosialaeth yn golygu newid mawr yn ffordd y byd ac ei ddodi mewn arfeddiad pan fynn ffatrioedd, gweithiau glo, trafnidiaeth a siopau yn cael ei perchen au ddefnyddio er lies i boblogaeth yr holl fyd. Dyna pam yr ydym yn dweud fydd di-weithdra dychrynllyd mewn byd sosialaeth. Mae dosbarth o ddynion yn y gorllwin ac yn y gwledydd comiwnydd, yn yr holl math o weithredoedd yn prnu ein cryfder gan arian ac yn ein gorfodi i weithio iddynt eu hunain, yn cael ei newid i gydweithio yn foddlonol i bob gradd o gymdeithasau. Un o’r pethau cyntaf iw gwneud mewn byd sosialaedd fydd cael darfod ar waeth diflas, sydd heddyw yn gwneud bywyd mor galed, a’u newid i waith mwy pleserus a deniadol.
Bydd rhaid cael byd sosialaeth heb derfyniadau. Nid oes modd ei sefydlu mewn un gwlad nac mewn un man o’r byd. Mae hyn yn golygu dim prynu a gwerthu rhwng unigolion a dim marchnad gwhaniaeth wledydd. Bydd y byd eang mewn sosialaeth yn ymdrechu i gynyrchu beth fydd eisiau, a bydd pob math a bobol yn cael rhyddid i gymeryd beth bydd yn cael ei gynyrchu.
Dichon fod un neu ddau o’r cynnygion gwreiddiol i’r system wedi dyfod i’ch meddwl. Efalli eich bod yn meddwl fod dyn yn rhy ddioglyd ac ynrhy drachwantus i wneud sosialaeth i weithio, ac efallai eich bod yn meddwl fod popeth yr ydym yn awgrymu yn ddi-rhan i naturoliaeth. Mae sosalwyr yn wastad yn barod i resymu ac mae’n ymchwiliadau mor bell wedi ein arwain o’r diwedd i’t tyb fod sosialaeth nid ddim ond yn beth o da, ond y mae ei eisiau yn druenus, i esbonio y problemau sydd nawr yn ein poeni.
1 comment:
In case you haven't already guessed, the above is a Welsh translation of the editorial from the July 1969 Socialist Standard.
Post a Comment